Mae'r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth am y safle Taliadau Tywydd Oer yn unig.
Defnyddio'r gwasanaeth hwn
Mae'r gwasanaeth hwn yn cael ei redeg gan yr Adran Gwaith a Phensiynau. Rydym eisiau cyn gymaint o bobl â phosibl i allu defnyddio'r gwasanaeth. Er enghraifft, mae hyn yn golygu y dylech allu:
- newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
- chwyddo hyd at 300% heb i'r testun fynd oddi ar y sgrin
- mynd o ddechrau'r gwasanaeth i'r diwedd gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- mynd o ddechrau'r gwasanaeth i'r diwedd gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
- gwrando ar y gwasanaeth gan ddefnyddio darllenydd sgrin
Rydym hefyd wedi gwneud y cynnwys yn y gwasanaeth mor syml â phosibl i'w ddeall.
Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych anabledd.
Statws cydymffurfiaeth
Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n llawn â fersiwn 2.2 Safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe.
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'r gwasanaeth hwn
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y gwasanaeth hwn. Os ydych yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu os ydych yn meddwl nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni drwy ddefnyddio'r ffurflen Cysylltu â DWP am hygyrchedd.
Y drefn gorfodaeth
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi'r 'Public Sector Bodies (Websites and Mobile Applications) (No. 2) Accessibility Regulations 2018' (y 'rheolaethau hygyrchedd'). Os nad ydych yn hapus â sut rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r:
- Gwasanaeth Cynghori a Chefnogaeth Cydraddoldeb (EASS) os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban
- Equality Commission for Northern Ireland (ECNI) os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y gwasanaeth hwn
Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi ymrwymo i wneud y gwasanaeth hwn yn hygyrch, yn unol â 'Public Sector Bodies (Websites and Mobile Applications) (No. 2) Accessibility Regulations 2018'.
Sut rydym wedi profi'r gwasanaeth hwn
Profwyd y gwasanaeth ddiwethaf ar 15 Awst 2024 ac fe'i gwiriwyd am gydymffurfiaeth â WCAG 2.2 AA. Cynhaliwyd y profion gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Profwyd y gwasanaeth gan ddefnyddio profion awtomataidd a llaw. Fe wnaethom hefyd ddefnyddio VoiceOver, Zoom a Voice Control i brofi.
Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y dudalen hon ar 22 Medi 2020. Fe'i hadolygwyd ddiwethaf ar 15 Awst 2024.
Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 15 Awst 2024. Cynhaliwyd y profion gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Fe wnaethon brofi pob tudalen.